1.   Yn yr ymateb hwn, rydym am ganolbwyntio ar gyfieithu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai un o’i phrif amcanion yw creu gweithlu sydd â’r sgiliau priodol i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfieithwyr yn aelodau allweddol a phwysig o’r gweithlu hwnnw. Er mwyn gallu parhau i ddatblygu’r proffesiwn/diwydiant cyfieithu yn effeithiol bydd angen buddsoddiad ariannol uwch o lawer na’r un presennol.

2.   Yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, nodwyd cefnogaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n darged heriol ac uchelgeisiol iawn y bydd gofyn am gydweithio effeithiol rhwng gwahanol gyrff, mudiadau a phartneriaid i’w wireddu. Bydd gan y Gymdeithas ei chyfraniad hithau i’w wneud.

Ond un peth yw gallu siarad Cymraeg, peth arall yw ei defnyddio yn naturiol ym mhob agwedd o fywyd. Mae’n rhaid i bobol hefyd allu darllen dogfennau ac ati yn y Gymraeg a llenwi ffurflenni Cymraeg. Golyga hyn y bydd gan gyfieithwyr rôl allweddol wrth annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg.

3.   Mae cyfieithu yn rhan o ‘Maes datblygu 5: Cefnogi’ yn y Strategaeth, ac rydym yn falch o weld y “bydd buddsoddiad hirdymor yn y seilwaith hwn yn parhau’n flaenoriaeth er mwyn rhoi’r iaith ar sylfaen gadarn at y dyfodol”.

Yn sicr, rydym yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y proffesiwn/diwydiant cyfieithu, a pharhau i gefnogi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gan mai ni yw’r corff sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol.

I gael gwybod rhagor am Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ewch i’n gwefan,

https://www.cyfieithwyr.cymru/.

4.   Mae’r gwahanol amcanion a restrir ym ‘Maes datblygu 5: Cefnogi’ yn cwmpasu cyfieithu, cynlluniau corpws, geiriadura a therminoleg, ac adnoddau addysg, yn ogystal â pharhau i ddatblygu’r seilwaith technolegol a digidol (cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, deallusrwydd artiffisial (AI), technoleg adnabod llais, ac ati) a’r cyfryngau. Gan fod llawer o’r meysydd hyn yn cyd-blethu a chyd-berthnasu â’i gilydd, credwn fod angen dod â’r rhain i gyd o dan yr un to fel bod un corff yn gyfrifol am lunio a gweithredu strategaeth ar gyfer gwireddu’r amcan o gynnal seilwaith ieithyddol modern a sicrhau y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn cynifer o gyd-destunau â phosib mewn oes gynyddol dechnolegol.

Dim ond trwy wneud hyn y credwn y gall Llywodraeth Cymru “arwain a gosod cyfeiriad yn y maes cynllunio ieithyddol ar gyfer y Gymraeg” yng nghyd-destun ‘Maes datblygu 5: Cefnogi’.

5.   Mae’n 40 mlynedd eleni ers sefydlu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi darparu arweiniad effeithiol a chadarn i’r proffesiwn/diwydiant cyfieithu yng Nghymru. Y Gymdeithas a fu’n bennaf cyfrifol fod gan y proffesiwn seiliau mor gadarn a’i bod wedi datblygu fel y gwnaeth.

Gwnaethom hyn trwy:

-          gynyddu ein haelodaeth i gynrychioli mwy a mwy o gyfieithwyr;

-          cynnal arholiadau aelodaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd;

-          hybu datblygiad proffesiynol cyfieithwyr trwy drefnu rhaglen amrywiol o weithdai, ac annog a hyrwyddo datblygu proffesiynol parhaus;

-          cynnal perthynas â sefydliadau Addysg Uwch, yn enwedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;

-          cynnal a meithrin ein cysylltiadau â chyrff a sefydliadau eraill oddi mewn a’r tu allan i fyd cyfieithu;

-          hyrwyddo a marchnata safonau a gwerthoedd proffesiynol y Gymdeithas a gwasanaethau ein haelodau.

Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli pob agwedd ar gyfieithu proffesiynol Cymraeg/Saesneg. Mae ein haelodau’n gweithio yn y sector cyhoeddus, yn y sector preifat, ac yn unigolion sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain. At hynny, rydym hefyd yn ymwneud ag unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn.

6.   Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru’n parhau mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu’r arweiniad angenrheidiol ac i adeiladu ar y gwaith y bu’n ei wneud ers cyfnod maith. Ond os ydym am lwyddo i wneud hynny bydd angen cynyddu’r buddsoddiad cyhoeddus ynddi. Bu lleihad o 31% yng ngrant y Gymdeithas yn ystod y cyfnod 2013-16 (pan ariannwyd y Gymdeithas gan Gomisiynydd y Gymraeg), sef toriad ariannol o £87,500 i £60,000. Mae’r toriad hwn yn fwy fyth wrth ystyried mai £97,269 oedd y grant yn 2012-13, ac mai £50,000 yw’r grant yn 2016-17. Arweiniodd hyn at golli un swydd yn y Gymdeithas.

Yn 2016-17 caiff Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru grant gan Lywodraeth Cymru. Ein gobaith yw y bydd y trefniant hwn yn parhau am gyfnod hir iawn.

7.   Byddai cynnydd yn y grant yn caniatáu i ni, yn y lle cyntaf, adfer nifer y staff i 3 fel y gallai’r Gymdeithas wireddu a gweithredu ei nod ac amcanion, sef cryfhau a phroffesiynoli’r maes cyfieithu, yn fwy effeithiol nac ar hyn o bryd. Byddai hyn yn ein galluogi i roi sylw manylach i sawl agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys datblygiad proffesiynol yn ei wahanol agweddau (gan gynnwys gweithdai a fu’n un o lwyddiannau’n rhaglen waith), ymateb i ddatblygiadau technolegol er mwyn gwella effeithlonrwydd, ac ymateb i ofynion newydd ar gyfieithu a geir yn Safonau’r Gymraeg.

8.   Roedd ein tystiolaeth i’r Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol yn gynharach eleni yn pwysleisio swyddogaeth bwysig cyfieithu wrth ddatblygu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth Llywodraeth Leol ac wrth weithredu Safonau’r Gymraeg. Roedd hefyd yn cynnig nifer o argymhellion a fyddai’n arwain at wireddu hynny ac yn dangos sut y gallai cyfieithu arwain y ffordd wrth i awdurdodau chwilio am ddulliau o gydweithio’n effeithiol. Dilynwch y ddolen hon, https://www.cyfieithwyr.cymru/cy/newyddion, ac ewch i 4 Ebrill 2016, i ddarllen y dystiolaeth honno.